Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymlynu wrth egwyddorion y Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW). Byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddangos ymrwymiad pendant i gydraddoldeb i fenywod yng Nghymru ac yn sicrhau bod blaenoriaethau amlwg wedi’u nodi ar gyfer cyflawni hyn.
Gwybodaeth ychwanegol:
Pam rydym am gyflwyno’r ddeiseb hon?
Mae’r confensiwn yn cynnwys 30 o erthyglau sy’n nodi hawliau menywod a merched. Mae’r erthyglau’n trafod pob mater sy’n effeithio ar gydraddoldeb i fenywod, fel stereoteipio, cyflogau cyfartal, trais yn erbyn menywod a menywod mewn bywyd cyhoeddus. Credwn, drwy ymlynu wrth egwyddorion y confensiwn, y caiff menywod yng Nghymru eu cynrychioli’n deg ar lefel ryngwladol a fydd yn ein galluogi ni, (WEN Wales), fel sefydliad ambarel, i helpu i lunio cymdeithas decach ar gyfer menywod drwy Gymru.
Y camau rydym am i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu cymryd
Wrth ymlynu wrth egwyddorion y confensiwn, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n dangos ymrwymiad pendant i gydraddoldeb i fenywod yng Nghymru, i ffurfio’r sail ar gyfer penderfyniadau ar egwyddorion ac amcanion Llywodraeth Cymru a chyfrannu at gyfres o nodau craidd ar gyfer pob menyw ar draws Cymru.
Unrhyw gamau a gymerwyd gennym hyd yma (e.e. llythyrau a anfonwyd at Lywodraeth Cymru neu a gafwyd ganddynt)
Ar 21 Mehefin, bydd menywod ledled Cymru yn dod ynghyd i edrych ar y Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod, ac i drafod y dulliau sydd ar gael i gynorthwyo menywod yng Nghymru i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mewn cynhadledd a drefnwyd gan WEN Wales. Bydd nifer o weithredwyr amlwg o sefydliadau cydraddoldeb ar draws y DU yn annerch y gynhadledd a bydd cyfle i’r rhai sy’n bresennol i rannu eu safbwyntiau ynghylch beth y gellir ei wneud yng Nghymru i gefnogi menywod i fyw bywydau rhydd a chyfartal.
Mae aelodau’r bwrdd hefyd wedi cysylltu â Bethan Jenkins AC, a chyflwynwyd datganiad barn i’r Gweinidog. Rydym yn aros am fanylion ynghylch cefnogaeth y Gweinidog i ymlynu wrth y Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod.
Cefndir y ddeiseb yn llawn
Mae WEN Wales yn gymuned o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio i hyrwyddo hawliau menywod ym mhob agwedd ar fywyd Cymru. Rydym am greu cymdeithas decach y gall menywod fyw ynddi heb ragfarn rhyw a gwahaniaethu rhwng y rhywiau, a mwynhau cydraddoldeb ym mhob agwedd ar eu bywyd bob dydd. Rôl WEN Wales yw hwyluso dulliau cyfathrebu rhwng ein haelodau; eu helpu i gydlynu eu gwaith a gweithio mewn partneriaeth, a chynrychioli buddiannau menywod ar bob lefel o lywodraeth.
Ynglŷn â’r ymgyrch
Mae WEN Wales yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymeradwyo’r Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn erbyn Menywod.
Byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddangos ymrwymiad pendant i gydraddoldeb i fenywod yng Nghymru ac yn sicrhau bod blaenoriaethau amlwg wedi’u nodi ar gyfer cyflawni hyn.
Beth yw’r Confensiwn?
Mae’r Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW) yn ddogfen ryngwladol sy’n rhestru hawliau pob menyw a merch. Mae’n gytundeb pwysig am gydraddoldeb rhwng y rhywiau sy’n nodi bod yn rhaid rhoi terfyn ar wahaniaethu o bob math yn erbyn menywod /merched.
Mae’r confensiwn:
- Yn rhestru hawliau pob menyw a merch;
- Fe’i derbyniwyd gan y Cenhedloedd Unedig ym 1979;
- Mae wedi’i gymeradwyo gan 186 o wledydd ledled y byd;
- Yn galw am gymryd camau i sicrhau mynediad, cyfleoedd a chanlyniadau cyfartal;
- Yn ei gwneud yn ofynnol bod llywodraethau yn sicrhau nad oes dim yn atal menywod a merched rhag gwneud yn fawr o’u hawliau (gan gynnwys stereoteipiau);
- Mae’n cynnwys gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol;
- Yn mynnu bod y Llywodraeth yn newid cyfreithiau ac arferion;
Mae’r confensiwn yn cynnwys 30 o erthyglau sy’n nodi hawliau menywod a merched. Mae’r erthyglau’n trafod pob mater sy’n effeithio ar gydraddoldeb i fenywod, fel stereoteipio, cyflogau cyfartal, trais yn erbyn menywod a menywod mewn bywyd cyhoeddus.
Cynhadledd y Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod
Ar 21 Mehefin, bydd menywod ledled Cymru yn dod ynghyd i edrych ar y Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod, ac i drafod y dulliau sydd ar gael i gynorthwyo menywod yng Nghymru i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Bydd nifer o weithredwyr amlwg o sefydliadau cydraddoldeb ar draws y DU yn annerch y gynhadledd a bydd cyfle i’r rhai sy’n bresennol i rannu eu safbwyntiau ynghylch beth y gellir ei wneud yng Nghymru i gefnogi menywod i fyw bywydau rhydd a chyfartal.
Prif ddeisebydd: Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 8 Hydref 2013
Nifer y llofnodion : 152